amdanaf i

Rwy'n recordydd sain gyda 18 mlynedd o brofiad yn y diwydiant teledu.  Gan fy mod wedi gweitho fel recordydd sain a chymysgydd sain ôl-gynhyrchu, mae gennyf ddealltwriaeth drylwyr am yr hyn sydd ei angen er mwyn sicrhau sain safonol.  Mae gennyf brofiad mewn genres gwahanol o promos, rhaglenni plant ac adloniant ysgafn i raglenni realaeth, ffeithiol a rhaglenni dogfen dramatig.  Rwyf wedi teithio a gweithio ledled y byd  mewn amgylchiadau anodd iawn ac wedi sicrhau bod y sain ar ei orau beth bynnag y sefyllfa.


addysg

HND Technoleg Sain A Fideo Proffesiynol - Prifysgol Salford 1997-99


gwybodaeth ychwanegol

Tystysgrif Cymorth Cyntaf

Wedi ffilmio yn y gwledydd canlynol - Yr Amerig, Mexico, Arianin, Panama, Perw, Hong Kong, Siapan, Cambodia, Kenya, Tanzania, Malawi, Uganda, Iorddonen, Israel, Sweden, Norwy, Ffinland, Gwlad Yr Ia a'r rhan fwyaf o Ewrop.

Rhugl yn Saesneg ac yn y Gymraeg